Mae’r Swyddfa Mynediad Teg (OFFA) wedi lansio eu papur briffio pwnc newydd ar y rhai sy’n gadael gofal, ac wedi ailddatgan bod y rhai sy’n gadael gofal yn grŵp blaenoriaeth i’r Llywodraeth ac OFFA.

Mae’r papur briffio yn rhoi trosolwg o’r heriau presennol a’r dystiolaeth ynghylch mynediad, llwyddiant a dilyniant i’r rhai sy’n gadael gofal. Mae hefyd yn amlygu enghreifftiau o arfer gorau o sut mae prifysgolion a cholegau yn gweithio i gefnogi’r rhai sy’n gadael gofal. Yn y papur briffio maent yn awgrymu y dylai sefydliadau ystyried cynnwys, yn y cymorth i’w gynnig i’r rhai sy’n gadael gofal, yr holl fyfyrwyr sydd wedi bod mewn gofal ar ryw adeg yn eu bywydau ac nid dim ond y rhai sy’n bodloni’r diffiniad cyfreithiol o berson sy’n gadael gofal. Yn ogystal, maent yn awgrymu y dylai Plant ar eu Pen eu Hunain sy'n Ceisio Lloches a myfyrwyr sydd wedi ymddieithrio hefyd gael yr un cymorth.

Darllenwch y briff llawn yma.