Mewn erthygl yn y tes, mae Prif Weithredwr y Sefydliad Dysgu a Gwaith yn dweud bod ffigyrau ar gyfer pobl ifanc sy'n derbyn gofal yn 'frawychus' ac 'ddim yn dderbyniol'.

“Mae mwy na 30,000 o bobl ifanc yn treulio blwyddyn gyfan heb fod mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET) dair blynedd ar ôl gorffen yn yr ysgol uwchradd, yn ôl astudiaeth fawr gan yr Adran Addysg.”

“Yn destun pryder, roedd 30,700 o bobl ifanc yn NEET drwy gydol 2013-14, sy’n cyfateb i un o bob 20 (4.8 y cant) o’r rhai a orffennodd cyfnod allweddol 4 yn 2010-11. Canfu ymchwilwyr fod mwy nag un o bob tri (37 y cant) o blant sy'n derbyn gofal yn perthyn i'r categori hwn o NEET hirdymor. Roeddent ddwywaith yn fwy tebygol o fod fel hyn yn y pen draw na’r rhai a nodwyd fel “plant mewn angen” gan y llywodraeth, ac aeth llai nag un o bob pump (18 y cant) ohonynt ymlaen i fod yn NEET am 12 mis.”

I ddarllen yr erthygl lawn, cliciwch yma. (Sylwer. bydd angen i chi gofrestru gyda'r tes ar-lein i gael mynediad i'r erthygl lawn; mae cofrestru am ddim).