Mae’r Adran Addysg wedi galw am dystiolaeth i lywio dealltwriaeth gynhwysfawr o’r system faethu bresennol yn Lloegr.

Maent am ddeall beth sy'n gweithio'n dda a pham, lle mae angen gwelliannau i sicrhau canlyniadau gwell i blant a nodi meysydd lle mae angen ymchwil pellach.

Ceisir barn gan:

• Plant a phobl ifanc
• Rhieni
• Gofalwyr
• Awdurdodau lleol
• Gweithwyr cymdeithasol
• Asiantaethau maethu annibynnol
• Asiantaethau maethu gwirfoddol
• Comisiynwyr
• Cynrychiolwyr ar draws y sectorau maethu a gofal
• Academyddion
• Sefydliadau sy'n darparu cymorth a gwasanaethau i blant a phobl ifanc

Daw’r alwad am dystiolaeth i ben ar 16 Mehefin 2017.

Ymwelwch yma - Cyfrif Maethu Cenedlaethol