Mae dros chwarter y staff addysg yn pryderu y gallent gael eu hystyried yn rhagfarnllyd neu'n hiliol os ydynt yn adrodd am bryderon sy'n gysylltiedig â ffydd a chred.

Canfu arolwg Cymdeithas yr Athrawon a’r Darlithwyr (ATL) hefyd fod 31% o staff â diffyg hyder yn eu barn eu hunain ynghylch adrodd am anffurfio organau cenhedlu benywod (FGM), cam-drin ar sail anrhydedd neu gam-drin plant sy’n gysylltiedig â ffydd neu gred.

Mae ychydig yn llai na hanner yn credu bod eu hyfforddiant diogelu ac amddiffyn plant wedi’u harfogi’n llawn i ymdrin â phroblemau sy’n dod i’r amlwg, cysylltu â’r arweinydd diogelu dynodedig, a gweithio gyda gweithwyr proffesiynol eraill i gefnogi nodi ac asesu’n gynnar.

Darllenwch weddill canlyniadau’r arolwg a’r erthygl yma – Canlyniadau Arolwg ATL.