Mewn adroddiad a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2017, mae Biwro Cenedlaethol y Plant (NCB) yn adrodd ar ymchwil ynghylch nifer y plant nad ydynt yn derbyn addysg, naill ai yn yr ysgol neu gartref.
Canfu cais Rhyddid Gwybodaeth fod 33,262 o blant wedi’u cofnodi fel rhai coll addysg ym mlwyddyn academaidd 2014-15. Fodd bynnag, mae ymchwil yr NCB yn awgrymu y gallai nifer gwirioneddol y plant nad ydynt yn cael eu haddysgu fod yn sylweddol uwch. Mae tystiolaeth yn awgrymu y gall plant sy’n colli addysg fod mewn mwy o berygl o gael eu cam-drin, eu hecsbloetio a’u hesgeuluso na’u cyfoedion. Lawrlwythwch yr adroddiad llawn yma - Adroddiad yr NCB.