Mae Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl yn rhedeg o 14-20 Mai 2018, ac eleni mae'n canolbwyntio ar straen. Darganfyddwch beth allwch chi ei wneud i helpu i godi ymwybyddiaeth.
Mae ymchwil wedi dangos bod dwy ran o dair ohonom yn profi problem iechyd meddwl yn ystod ein hoes, ac mae straen yn ffactor allweddol yn hyn. Mae’r Sefydliad Iechyd Meddwl sy’n trefnu Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl wedi datblygu ystod o ddeunyddiau i’w lawrlwytho i gefnogi hyn.